This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Cewch groeso, dewch i aros

Cartref oddi cartref…

Mae digonedd o lefydd i chi aros ac ymlacio yn Ninbych – a mwynhau ein croeso enwog. Os ydych yn chwilio am westy hanesyddol, gwely a brecwast moethus neu faes gwersylla sy’n addas i’r teulu, mae gennym y dewis perffaith i chi.

AGORIADAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg agoriad o’r Castell neu’r Llyfrgell ym mhen uchaf Stryd y Dyffryn er mwyn crwydro fel y mynnwch!

DIGWYDDIADAU’R DYFODOL

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

 ** YN ÔL AR GYFER 2024!! **

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: townclerk@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Bydd Drysau Agored Dinbych yn cael ei gynnal dros benwythnos 21-22 Medi 2024.

Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol.