This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Golwg wahanol ar adloniant

Gweithgareddau yn Ninbych...

Mae Dinbych mewn sefyllfa wych i gynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i bawb.

Beth bynnag yw eich dileit – cerdded, golygfeydd gwych, llefydd hanesyddol hudolus, amgueddfeydd anghyffredin – mae’r cyfan yma ar eich cyfer.

Os ydych yn hoffi baeddu eich esgidiau neu fynd am daith llawn cyffro, ymlacio wrth bysgota neu farchogaeth ar draws rhostiroedd anghysbell, mae tref Dinbych yn ganolfan ddelfrydol i chi.

Rydym yn falch o ddweud bod Dinbych hefyd wedi llwyddo i osgoi profiad siopa cyffredinol y stryd fawr sydd mor amlwg ar draws y Deyrnas Unedig heddiw – felly os ydych yn chwilio am brofiadau siopa, bwyta ac yfed unigryw, mae digonedd o fusnesau annibynnol yma i fodloni eich chwant.

Dewch draw i’n gweld – ni chewch eich siomi!

ALLWEDDAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

 ** YN ÔL AR GYFER 2024!! **

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: admin@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Bydd Drysau Agored Dinbych yn cael ei gynnal dros benwythnos 21-22 Medi 2024.

Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol.