This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Darganfod Hen Ardaloedd

Tref Hanesyddol

Mae Dinbych yn dref farchnad hardd ac yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Ystyr Dinbych yw “caer fechan” ac mae olion Castell hanesyddol Dinbych yn parhau i fwrw cysgod dros y dref.

Oherwydd ein lleoliad mewn ardal strategol bwysig ar y Gororau, mae pobl y dref wedi wynebu amseroedd cythryblus yn y gorffennol a chredwn fod hyn wedi bod o gymorth i feithrin cymeriad tref Dinbych – cryf, bywiog ac annibynnol, ond hefyd yn agored, cyfeillgar a chroesawgar. Mae’r nodweddion hyn, law yn llaw â’r cyfuniad o nodweddion daearyddol naturiol a’r etifeddiaeth gyfoethog o adeiladau hanesyddol, yn gwneud Dinbych yn ‘rhyfeddod annisgwyl’ i’r ymwelydd. Yma cewch groeso twymgalon a hael lle bydd pob ymwelydd yn teimlo’n gwbl gartrefol, a lle gallwch fwynhau profiad gwirioneddol Gymreig. 

ALLWEDDAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

 ** YN ÔL AR GYFER 2024!! **

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: admin@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Bydd Drysau Agored Dinbych yn cael ei gynnal dros benwythnos 21-22 Medi 2024.

Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol.