Digwyddiadau
Mae trigolion Dinbych yn bobl brysur iawn, cynhelir pob math o ddigwyddiadau yma ac mae croeso i chi ymuno.
Dyma rai o’r digwyddiadau a gynhelir yn y dref:
Arddangosfa Tân Gwyllt Dinbych (5 Tachwedd 2024)
Mae'n bleser gan Gyngor Tref Dinbych hysbysu y bydd y digwyddiad Tân Gwyllt blynyddol yn mynd yn ei flaen eleni. Nos Fawrth 5ed Tachwedd, 7yh yn y Castell, croeso cynnes i bawb.
Sylwch yn garedig bod ffyn gwreichion wedi’u gwahardd yn y digwyddiad a gwnewch yn siŵr bod plant yn cael eu goruchwylio bob amser.
Noder os gwelwch yn dda y bydd y ffyrdd sydd yn arwain at y castell ar gau i gerbydau oddeutu awr cyn i'r digwyddiad gychwyn i sicrhau diogelwch cerddwyr